AdminHistory | Tŷ Newydd yw Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru. Ers agor ein drysau yn 1990, mae miloedd o awduron wedi camu dros drothwy ein drws gwyrddlas eiconig. Eu harbenigedd yw trefnu cyrsiau ysgrifennu creadigol preswyl. Maen't yn croesawu grŵp newydd i’w cartref bob wythnos- yn gymysgedd unigryw o unigolion o Gymru, y Deyrnas Unedig, a phob cwr o’r byd. Maent yn treulio amser gyda’i gilydd dan arweiniad awduron proffesiynol, yn cymryd rhan mewn gweithdai a thiwtorialau un-i-un, yn mwynhau darlleniadau, ac yn ymhyfrydu yn awyrgylch hyfryd ac ysbrydoledig Tŷ Newydd. Mae cyfranogwyr yn rhoi help llaw yn y gegin, lle mae prydau cartref blasus yn cael eu paratoi gyda chynhwysion lleol. Mae eu rhaglen yn cynnwys amrywiaeth eang o gyrsiau preswyl ac encilion – yn y Saesneg a’r Gymraeg – mewn amryw o genres, ffurfiau a themâu, yn cynnwys barddoniaeth, ffuglen, ffeithiol-greadigol, scriptio, ysgrifennu am fyd natur, dylunio, adrodd straeon, ioga a mwy. Maent yn dewis ein tiwtoriaid a’u siaradwyr gwadd yn ofalus, gan groesawu rhai o ymarferwyr gorau eu meysydd i Dŷ Newydd pob blwyddyn. Mae rhai o’u cyn-diwtoraid yn cynnwys Carol Ann Duffy, Gillian Clarke, Pascale Petit, Paula Meehan, Mark Cocker, Menna Elfyn, Patrick McGuinness, Kaite O’Reilly, Imtiaz Dharker, Niall Griffiths, Daljit Nagra a Malachy Doyle. Y tŷ hanesyddol oedd cartref olaf y cyn Brif Weinidog David Lloyd George ac mae cyffyrddiadau cyfarwydd pensaer Portmeirion, Clough Williams-Ellis yn parhau i fod yn amlwg drwy’r safle. Mewn lleoliad tawel rhwng y mynyddoedd a’r môr, dyma’r man perffaith i encilio iddo a bod yn greadigol. Caiff Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ei redeg gan Llenyddiaeth Cymru, y cwmni cenedlaethol ar gyfer datblygiad llenyddiaeth. |