﻿<?xml version="1.0" encoding="utf-8"?>
<rdf:Description rdf:about="https://calmview.bangor.ac.uk:443/CalmView/record/catalog/ASH/36" xmlns:rdf="http://www.w3.org/1999/02/22-rdf-syntax-ns#" xmlns:dc="http://purl.org/dc/elements/1.1/">
  <dc:title>Llyfr a fu ym meddiant Peter Williams, Plas Goronwy, brawd ieuengach i W.W., a fu farw yn 1825 o'r darfodedigaeth (MS. 1, 56).</dc:title>
  <dc:description>A. 
t. 1 Rhigymau gwelw o waith rhyw John Roberts o Gaergybi (wedi eu hysgrifennu yn y Traeth Coch, 21 Mawrth, 1788). 
t. 2-4. Dyddiadaur P.W. am 1822 (Gorff 16 - 4 Medi). Oedfa enneiniedig Lewis Morris y pregethwr; Panton yn cau ffordd; ymweliad a Lerpwl - myned i gapel 'Papest' a 'chapel Quecars' yno; dod adref gyda llong dân (chwech awr o Lerpwl i Fiwmares); Paul Panton yn marw Awst 24; crogi dyn yng Nghaernarfon (Medi 4). 

B. 
t. 1. Rhigymau John Roberts eto. 
tt. 2-3. Dyddiadur pregethau (a glywodd P. Wl. o 20 Gorff. hyd 30 Medi, 1822). List go dda o hen bregethwyr Môn - clywodd John Elias bedair gwaith; methodd John Lewis yn dweud ei destyn yn Llanallgo, etc. tt. 4-8. Copi o lythyr odiwrth Owen Williams Llansilin at John William Prichard Plas y Brain (27 Awst, 1825). Ton - "Cwynfan Henaint" (t5); y pennillion i'w canu arni gan Dl. Richards Llansilin; cyfeiriadau at Wallter Mechain a Wm. owen Pugh, ac englynion (4) gan Fardd Nantglyn i wr Plas-y-brain. 
tt. 9-10. Copi o feddargraff Dafydd Ddu Eryri, Coelbren y Beirdd.</dc:description>
  <dc:date>1822-1825</dc:date>
</rdf:Description>