﻿<?xml version="1.0" encoding="utf-8"?>
<rdf:Description rdf:about="https://calmview.bangor.ac.uk:443/CalmView/record/catalog/ASH/39" xmlns:rdf="http://www.w3.org/1999/02/22-rdf-syntax-ns#" xmlns:dc="http://purl.org/dc/elements/1.1/">
  <dc:title>Llyfr Cyhoeddiadau W.W.</dc:title>
  <dc:description>A. 
tt. 1-21. Dylid dal y rhan hon yn glos yn wyneb yr hunangofiant yn MS. 37, B, 2. Y bregeth gyntaf erioed yn Glasinfryn, Rhag. 13, 1829, oddiar 1 Cor. v,7, y rhan olaf. Gwelir ef yma yn pregethu o gwmpas ei gartref am rai misoedd; yna'n bwrw allan i ddosbarth dwyreiniol Môn; yn 1830 ymwrola i fyned allan ymhell dros y Fenai. 
Ar t. 19 cofnoda iddo bregethu yn Nhy'nygongl ar 11 Hydref, 1833, ac wele'r geiriau prudd sydd gogyfer a hynny - "canu clul Wiliam y tro olaf byth byth oedd." Beth a ddigwyddodd? Testyn cryf hallt oedd ganddo, sef Esec. xxiv, 13 - gormod o halen yn y bregeth, efallai. 

B. Mwy diddorol o lawer nag A. 
t. 1. Awst 1831. Taith bregethu i Feirionydd a Gogledd Ceredigion. Sylwer arno yn pregethu yn Nhr'erddol ar lan Clettwr (Awst 13). Paham yr oedd cynnifer o ogleddwyr yn ysgrifennu Aberiffrwd? 
t. 2. Teithiau i Sir Gaernarfon. 
tt. 3-4. "Odfeuon achlysurol. "Pregethu llawer mewn wylnosau - y wylnos ryfeddaf oedd honno yn Cefnirwch, "wylnos Dic [ei frawd] cyn myned i'r America" (23 Medi, 1831). Ar Ion. 7, 1832, wele'r Methodus ieuanc deddfol yn pregethu yn 'capel y Trochwyr sydd wrth fwlch y fon'. 
tt. 5-6. Teithiau i Ddinbych, Fflint, Arfon.</dc:description>
  <dc:date>1830-1834</dc:date>
</rdf:Description>