﻿<?xml version="1.0" encoding="utf-8"?>
<rdf:Description rdf:about="https://calmview.bangor.ac.uk:443/CalmView/record/catalog/ASH/53" xmlns:rdf="http://www.w3.org/1999/02/22-rdf-syntax-ns#" xmlns:dc="http://purl.org/dc/elements/1.1/">
  <dc:title>"Hanes ein taith pan ymwelsom a'n brodyr … Awst 9, 1823". Yn llaw J.P. efallai, ond nid sicr. </dc:title>
  <dc:description>Pedwar o ofyniadau a roddid ymhob lle - dosbarth dwyreiniol Môn - i gyd yn holi'n fanwl i waith y blaenoriaid. Atebion digon didderbynwyneb: brawd yn y Talwrn yn credu y gallai'r blaenoriaid fod yn fanylach; yn Ty'nygongl dywedwyd bod yr areithiau yn y Society yn rhy hirion; yn Llanallgo cwyniad bod blaenor neu ddau yn llwfr neu yn ddiog; blaenoriaid Peniel yn bur hir cyn dod i mewn i'r Seiad, "y bennod wedi ei darllen cyn iddynt ddyfod". Yn Llangoed cwyniad na buasai'r blaenoriaid "yn uwch yn y Society" h.y. yn uwch o ran llais, a cheid yr un gwyn o Baracia. Cyhoeddi llawnach a ofynnid gan y frawdoliaeth ym Miwmares. Nid yn aml y ceir adroddiad o'r fath mor onest</dc:description>
  <dc:date>1823</dc:date>
</rdf:Description>