﻿<?xml version="1.0" encoding="utf-8"?>
<rdf:Description rdf:about="https://calmview.bangor.ac.uk:443/CalmView/record/catalog/ASH/59" xmlns:rdf="http://www.w3.org/1999/02/22-rdf-syntax-ns#" xmlns:dc="http://purl.org/dc/elements/1.1/">
  <dc:title>Llythyrau oddi wrth y Parch Hugh Hughes, Beaumaris at y Parch William Williams, Grainfryn (Ty Calch yn ddiweddarach)</dc:title>
  <dc:description>Dywed John Prichard yn Hanes Meth. Môn, td. 272 i Hugh Hughes gael addysg well na'r cyffredin - gellir gweled hynny yn ei lawysgrif; dywed fod tipyn o'r digrifol yn ei natur - prawf y llythyrau yma y medrai fod yn ddoniol a choeglyd (4, 12 ac yn enwedig 3, lle y rhydd gynghorion amryw i W.W. a'i gyfaill pa sut i ymddwyn ar eu taith yn y Dê yn 1842). Sieryd yn aml ag W.W. fel pe buasai dad iddo; y gwir yw nad oedd H.H. ond wyth mlynedd yn hyn na'i gyfaill. Llofnoda ei hun yn aml yn "Huw Huws" neu "Huw ap Huw"; y mae ganddo ffordd hwylus iawn i gyfeirio at ei gyhoddiadau drwy dalfyru enwau lleoedd - Mwrog am Lanfwrog, Maethlu am Llanfaethlu, a Maen and Dynymaen. Medrai, serch hyny, fod yn bur siarp weithiau, e.e., pan geryddai W.W. o fod yn ysgafn chwerthingar mewn rhai cyfarfodydd crefyddol a chadw menyg am ei ddwyli (26 - Gorff. 24, 1847). Go lawchwith yw ei gyfeiriadau at gyfarfodydd dirwestol, a chafodd beth profedigaeth ym Miwmares pah ofynodd masnachwr gwirod am gael bod yn aelod eglwysig yn 1848 (34). Nid oedd ganddo ormod cariad at William Bryan y blaenor. 

Amryw gyfeiriadau at yr hen Forris Williams o Blas Goronwy gynt (14, 20, 42); at Figaro rhyfedd Bangor ac enw John Prytherch ar ei dudalennau bustlaidd (8); at ei gyfarfyddiad ym Manchester a dafydd Rhys Stephen y Bedyddiwr (32). Rywfodd neu gilydd, ceir mwy o gyffyrddiadau yn y llythyrau hyn na nemor o gofnodion y cyfnod at achos Dr Owen Richards a fu'n genhadwr am dymor byr yn Cassia. "Pa le y bydd y brodyr yn cwrdd â Dr Richards pan ddelo" [i siarad a phwyllgor cenhadol Cwrdd Misol Môn tybed?], gofynna ar Chwefror 7, 1845 (13); cyfeiriad eto (14) at ymweliad o'i eiddo a'r Bala - Mrs Richards yn garedig iawn wrtho, ac arhyhoeddiad fod O.R. "yn ymddangos yn ddyn clyfar, pa faint bynnag a fu ei ddrwg". Sonia yn 39 (ddechrau 1849) am y costau a ddeuai o "gyfraith Richards" - a ddaeth rhywbeth ohonno? Swn digon rhyfedd oedd yn ei lais yn 1847 hefyd, ofni bod cosb Rhagluniaeth yn syrthio ar y M.C. oherwydd ymadael â Chymdeithas Genhadol Llundain - achlysur hyn oedd y newydd am farw y cenhadwr Daniel Jones, mab Maes-y-plwm. 

Yn un o'i lythyrau atolyga ar W.W. i'w losgi; da iawn iddo beidio</dc:description>
  <dc:date>1842-1852</dc:date>
</rdf:Description>