﻿<?xml version="1.0" encoding="utf-8"?>
<rdf:Description rdf:about="https://calmview.bangor.ac.uk:443/CalmView/record/catalog/BOD/1717" xmlns:rdf="http://www.w3.org/1999/02/22-rdf-syntax-ns#" xmlns:dc="http://purl.org/dc/elements/1.1/">
  <dc:title>Storiau yn llaw Robert Morris </dc:title>
  <dc:description>i. Priodas Belphegor a gyfieithwyd o'r Italaeg; a scrifenwyd yn'r Iaith hono gan Nicholas Machiavel un o'r gwyr hynotaf yn ei Amser
[Tudalen anghyflawn]

ii. Ystori Ddameg
Yn amser y brenin Samoth y Ser daeth saith o Arglwyddi ynys Prydain ynghyd yng Nghaer Idris ym Môn. Areithiodd Caswallon mai'r ser oedd fwya hynod yn y greadigaeth ac fe ganiatawyd i dri gwr dysgedig fynd am dridiau i'r lleuad lle cawsant groeso cynnes. Dychwelasant heb ddim i'w adrodd am y rhyfeddodau a welsant ac o ganlyniad cawsant eu bwrw tros y Fenai a'u diarddel o Fôn - y cerydd mwyaf i wyr dysgedig yn nyddiau Samwth Ser. Mae'r tridiau ar y lleuad yn arwyddocâd o hoedl dyn : ei Fabiaeth; canol oed; henaint. Y rhain a ant heibio heb gael amser gan y pleserau, gwegni a bydol helyntion i graffu ar ryfeddodau'r greadigaeth</dc:description>
  <dc:date>29 Tachwedd 1764</dc:date>
</rdf:Description>