﻿<?xml version="1.0" encoding="utf-8"?>
<rdf:Description rdf:about="https://calmview.bangor.ac.uk:443/CalmView/record/catalog/COET/42" xmlns:rdf="http://www.w3.org/1999/02/22-rdf-syntax-ns#" xmlns:dc="http://purl.org/dc/elements/1.1/">
  <dc:title>"Gwaith Barddonol William Jones, shop, Bryngwran Môn, Wedi ei gasglu yn y ffurf bresenol Gan ei Weddw Alarus a'i Fab Hiraethlon …. Gorff.21, 1879"</dc:title>
  <dc:description>Llu o englynion beddargraff a chaneuon duwiol didactig. Ar t.1, ceir "cynnwysiad" o'r marwnadau a gawsant eu hargraffu; ar t.ii, ymddengys "eglurhad" gonest a theilwng iawn ei fab. Yna dilyn 123 o dudalennau mawrion llydain, a'r caneuon gwreiddiol wedi eu pastio arnynt. 

Efallai mai'r darn mwyaf diddorol yw'r un ar t.57 - "Marwnad i William Williams Llanerchymedd" - gyda nodiadau a chywiriadau arni gan Caledfryn ei hun. Am y William Williams hwn, myfyriwr yn Athrofa Blackburn ydoedd a fu farw 3 Ebrill, 1829; ato ef yr oedd Gwalchmai yn anfon llythyr yn Mawrth, 1828 (Gwalchmai MSS. 1,a,b.)</dc:description>
  <dc:date>1879</dc:date>
</rdf:Description>