﻿<?xml version="1.0" encoding="utf-8"?>
<rdf:Description rdf:about="https://calmview.bangor.ac.uk:443/CalmView/record/catalog/IW/1/1481" xmlns:rdf="http://www.w3.org/1999/02/22-rdf-syntax-ns#" xmlns:dc="http://purl.org/dc/elements/1.1/">
  <dc:title>Llythyr oddi wrth John Ellis [Caerwyn Williams], 17 Upper Leeson Street, Dublin at Ifor Williams</dc:title>
  <dc:description>Mae'n diolch iddo am arwyddo'r dystysgrif ac am anfon y dyfyniadau o'r llyfr. Mae'n dychwelyd ei erthygl ar "Y Llyfr Gwyn o Hergest a LL. 3" ac yn amgau erthygl ar "Efengyl Nicodemus". Gwell ganddo weld y ddwy erthygl amgaeëdig yn cael eu cyhoeddi gyntaf.
Mae'n gallu gwerthfawrogi ei broblem fel golygydd pan fo cymaint o ddeunydd yn cael ei yrru ato. Mae'n gobeithio mai rhywbeth ynglyn â'r Wyddeleg a'r Gymraeg fydd ganddo y tro nesaf. Mae'n mynychu darlithoedd Bergin i gyd. Mae Gwilym Jones o Gwm Penmachno yn gweithio'n y Civil Service yno ac hefyd yn dysgu Gwyddeleg fodern.
A yw'n gwybod fod yr Irish Academy yn cyhoeddi Geiriadur mewn rhannau ?
Fe fyddai'n bleser ganddo anfon ymenyn iddo.
Drwg ganddo glywed mai aflwyddiannus fu W.R. Jones yn ei ymgais am yr ysgol-feistraeth.
Bydd yn gweld yr Athro J. Lloyd Jones bob wythnos.</dc:description>
  <dc:date>7/2/1940</dc:date>
</rdf:Description>