﻿<?xml version="1.0" encoding="utf-8"?>
<rdf:Description rdf:about="https://calmview.bangor.ac.uk:443/CalmView/record/catalog/IW/1/163" xmlns:rdf="http://www.w3.org/1999/02/22-rdf-syntax-ns#" xmlns:dc="http://purl.org/dc/elements/1.1/">
  <dc:title>Llythyr oddi wrth Lt. D. Andrew Davies, Milford House, Monk St., Abergavenny at Ifor Williams</dc:title>
  <dc:description>Wrth astudio barddoniaeth T. Gwynn Jones yn 1939 ail-ddarllenodd lyfr Thomas Taig. Sylweddolodd nad yw John Morris-Jones yn trin problem amseriad mewn cynghanedd yn ei Gerdd Dafod, dim ond aceniad.
Ei gasgliad yw mai amser dyblyg yw amseriad canu caeth.
Dangosodd ei waith yn 1940 i Saunders Lewis ac awgrymodd y dylasai ei anfon ato [Ifor Williams], a'i gynnig i'r BBGC. Os yw'r astudiaeth yn werth ei gyhoeddi carai gael y cwbl yn ôl er mwyn ysgrifennu rhagymadrodd.</dc:description>
  <dc:date>30/8/1943</dc:date>
</rdf:Description>