﻿<?xml version="1.0" encoding="utf-8"?>
<rdf:Description rdf:about="https://calmview.bangor.ac.uk:443/CalmView/record/catalog/IW/1/4" xmlns:rdf="http://www.w3.org/1999/02/22-rdf-syntax-ns#" xmlns:dc="http://purl.org/dc/elements/1.1/">
  <dc:title>Llythyr oddi wrth Ifan ab Owen Edwards, Neuadd Wen, Llanuwchllyn, Meirion at Ifor Williams</dc:title>
  <dc:description>Mae'n diolch am ei lythyr. Mae'n ysgrifennu ar y trên. Mae ei chwaer mewn "home" yn Llundain ac anhwyldeb ar ei llygaid. Mae'n sicr na chafodd lythyr y Macwyaid.
Bu'n Llanfair yn cael sgwrs â Syr John oddeutu'r Nadolig.
Mae'n edrych ymlaen at gymorth y Macwyaid. Ychydig o gymorth sydd wedi'i gael gan Gymdeithasau Prifysgol.
Mae cylchrediad y Cymru ar y fyny. Rhaid codi nifer y tudalennau. 
Mae llawer eisiau iddo newid y gair "cyni".
Rhaid i Gymru afael yn ei llenyddiaeth os yw am barhau yn genedl. Hi yw ei henaid a rhaid i'w henaid fod yn bur.
Mae'n bwriadu pwrcasu motor van a mynd o gylch y wlad i'r ffeiriau a chodi stondin a gwerthu llyfrau Cymraeg. Mae am godi stondin am y tro cyntaf yng Nghaernarfon amser y steddfod. Rhaid torchi llewys a phlannu iddi.</dc:description>
  <dc:date>16/2/1921</dc:date>
</rdf:Description>