﻿<?xml version="1.0" encoding="utf-8"?>
<rdf:Description rdf:about="https://calmview.bangor.ac.uk:443/CalmView/record/catalog/IW/1/995" xmlns:rdf="http://www.w3.org/1999/02/22-rdf-syntax-ns#" xmlns:dc="http://purl.org/dc/elements/1.1/">
  <dc:title>Llythyrau oddi wrth Eluned [Morgan], 51 Hamilton Street, Caerdydd at Ifor Williams</dc:title>
  <dc:description>Mae meddwl fod ei chyfeillgarwch yn werthfawr iddo yn ei synnu. 
Oni ddylai Ifor Williams fod yn Nhreorci ar 1 o Hydref yn gweld dadorchuddio cof-golofn Ben Bowen? Llawenydd clywed fod Ifor Williams wedi cael hwyl ymysg y Llydawiaid. Daeth William George am ddiwrnod i Langollen. Bydd yn Jiwbili'r Wladfa ymhen 6 blynedd. A gaiff ddod i ddarlithio i Dregarth ?
Bydd angen i gynrychiolwyr gorau'r Genedl fynd i'r Wladfa, i'r Jiwbili.
Mae mor falch o dderbyn llun o Ifor Williams, ei arwr. Gresyn na chai fynd i'r Mumbles i ysgrifennu Gwymon y Môr. Trist cwrdd bechgyn Eryri yn Bedlinog - wedi gorfod cefnu are eu cartrefi i gadw newyn rhag y trothwy.
Mae'n dod i Dregarth i ddarlithio. Dweud wrth Ifor Williams am beidio bod yn specialist fel Morris Jones.</dc:description>
  <dc:date>September 1908-October 1908</dc:date>
</rdf:Description>