﻿<?xml version="1.0" encoding="utf-8"?>
<rdf:Description rdf:about="https://calmview.bangor.ac.uk:443/CalmView/record/catalog/JMJ" xmlns:rdf="http://www.w3.org/1999/02/22-rdf-syntax-ns#" xmlns:dc="http://purl.org/dc/elements/1.1/">
  <dc:title>Papurau John Morris-Jones</dc:title>
  <dc:description>Ceir yma gasgliad o ohebiaeth sy'n adlewyrchu bywyd academaidd, bywyd cymdeithasol a bywyd personol John Morris-Jones, o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd chwarter cyntaf yr ugeinfed. Mae deuparth yr ohebiaeth yn cynnwys llythyrau rhyngo â Mary Morris-Jones (ne Mary Hughes), yng nghyfnod eu carwriaeth. Ceir yma ganiadau serch, a rhai darluniadol, yn ogystal ag adroddiad o helyntion cyfeillion ym Môn, Aberystwyth, a Rhydychen.  
Mae llythyrau ar ffurf rhigwm at ffigwr amlwg arall yn dadeni llenyddol dechrau'r ugeinfed ganrif, ei gyfoeswr, a chyd-fyfyriwr, Owen Morgan Edwards. Ceir yma olwg ar yr agwedd gystadleuol, gyfeillgar, rhyngddynt, wrth iddynt gymharu cariadon, a'u bröydd. Trwy'r llythyron, a'r casgliad pellach o bapurau teuluol, ehangir ymhellach ar y cyfle i ddod i adnabod y person tu ôl i'r academydd.
Er bod rhan helaeth o'r casgliad yn ymwneud a'i fywyd personol, a theuluol, mae yn y casgliad, hefyd, ddeunydd yn ymwneud a'i fywyd academaidd, megis yr ohebiaeth â chyhoeddwyr ac ysgolheigion.  Mae cryn ddeunydd ar waith y Cynfeirdd a'r Cywyddwyr, gan gynnwys trawsgrifiadau a thraethodau gan John Morris-Jones; llyfrau gan eraill fu'n eiddo i John Morris-Jones; a llythyrau gan John Gwenogvryn Evans sy'n cyffwrdd ar yr anghytuno bu rhwng y ddau ysgolhaig ynghylch tarddiad llyfr Taliesin. Ceir hefyd broflenni, a llyfrau nodiadau, ar gyfer rhai o'i gyhoeddiadau mwyaf blaenllaw, gan gynnwys: Caniadau (1907); Welsh Grammar (1913); a Cerdd Dafod (1925).
Cydnabyddir fod  i John Morris-Jones ran allweddol yn y dadeni llenyddol a welwyd yng Nghymru ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif.  Mae tystysgrifau er anrhydedd,  a llythyrau gan y prif weinidog David Lloyd George ar gyfrif ei urddo'n farchog, yn brawf o'r gydnabyddiaeth hynny. Ceir cryn dipyn o lythyrau cydymdeimlo ar achlysur marw John Morris-Jones (1929), yn ogystal, gyda nifer o deyrngedau iddo gan academyddion, megis yr Athro John Lloyd Jones a'r Athro Ifor Williams.</dc:description>
  <dc:date>1773-1965</dc:date>
</rdf:Description>