﻿<?xml version="1.0" encoding="utf-8"?>
<rdf:Description rdf:about="https://calmview.bangor.ac.uk:443/CalmView/record/catalog/JMJ/1/3/37" xmlns:rdf="http://www.w3.org/1999/02/22-rdf-syntax-ns#" xmlns:dc="http://purl.org/dc/elements/1.1/">
  <dc:title>Llythyr oddi wrth John [Morris-Jones] at Mary Hughes.</dc:title>
  <dc:description>Cyfeiriai John [Morris-Jones] ei lythyr at "Mia Carissima", [gan ddefnyddio'r term Eidaleg am "Fy annwylyd"], gan ysgrifennu at Mary Hughes tra'r oedd hi yn Aberystwyth. Mae'n dyfynnu Dewi Wyn, gan bitïo na chawsai'r llythyr y disgwyliai gan Mary hyd y bore hwnnw. Ai ymlaen i gywydda a barddoni am yr hyn sy'n gwahanu'r ddau ohonynt -y pellter rhwng [Aberystwyth a Llanfair PG]; coed Plas Newydd a bryniau Sir Gaernarfon ayb. Ceir dyfyniad gan [William Williams, Pantycelyn] yma wrth i John [Morris-Jones] yntau "edrych dros y bryniau pell", wrth hiraethu am Mary. Defnyddiai arddull caligraffol yma ac acw, gan dynnu llun merch o fewn y briflythyren 'P' ar y dudalen olaf.</dc:description>
  <dc:date>05/06/1892</dc:date>
</rdf:Description>