﻿<?xml version="1.0" encoding="utf-8"?>
<rdf:Description rdf:about="https://calmview.bangor.ac.uk:443/CalmView/record/catalog/JOR" xmlns:rdf="http://www.w3.org/1999/02/22-rdf-syntax-ns#" xmlns:dc="http://purl.org/dc/elements/1.1/">
  <dc:title>Casgliad sgriptiau J.O. Roberts, actor (1932-2016)</dc:title>
  <dc:description>Casgliad o sgriptiau a dogfennau o yrfa lwyddiannus J.O. Roberts sy’n ymestyn dros gyfnod o tua 40 mlynedd. Ceir amrywiaeth o sgriptiau radio, teledu a llwyfan yn y casgliad gyda nodiadau personol J.O. Roberts ar nifer o’r sgriptiau. Yn y casgliad mae dramâu wedi eu hysgrifennu gan nifer o awduron blaenllaw’r ugeinfed ganrif gan gynnwys John Gwilym Jones, Islwyn Ffowc Elis ac Eigra Lewis Roberts. Ceir hefyd ambell ddogfen megis llythyron rhwng J.O. Roberts a chyfarwyddwyr rhai o’i brosiectau, sydd yn rhoi mewnwelediad i yrfa J.O. Roberts tu ôl i’r llen. Cafodd y casgliad ei gyflwyno i Archif Prifysgol Bangor fel rhodd gan ei deulu.</dc:description>
  <dc:date>1953-1994</dc:date>
</rdf:Description>