﻿<?xml version="1.0" encoding="utf-8"?>
<rdf:Description rdf:about="https://calmview.bangor.ac.uk:443/CalmView/record/catalog/RTJ" xmlns:rdf="http://www.w3.org/1999/02/22-rdf-syntax-ns#" xmlns:dc="http://purl.org/dc/elements/1.1/">
  <dc:title>Papurau R. Tudur Jones</dc:title>
  <dc:description>Dyma gasgliad o ffeiliau o bapurau sy'n taflu goleuni ar yr agweddau amrywiol o fywyd a gwaith R. Tudur Jones. Ceir yma ohebiaeth, ffurflenni cais a phapurau ariannol yn ymwneud â  Choleg Bala-Bangor a'i Hostel, gohebiaeth bersonol, erthyglau ac anerchiadau hanesyddol a diwinyddol, taflenni a gohebiaeth yn ymwneud â  Phlaid Cymru etc.

Yn eu mysg hefyd ceir papurau unigolion a hyd yn oed capeli a ddaeth i law R. Tudur Jones yn ystod ei yrfa. Mae yma gofnodion Eglwys Annibynnol Treflys, Bethesda, dyddiaduron Dr Thomas Rees (1869-1926) a'r Parch. David Rees, Capel Mawr a phapurau a phregethau y Parch. William Glyndwr Howells (1917-1971).

Dyma grynodeb yn unig. Er mwyn gwneud tegwch â'r casgliad, rhaid ymgynghori'n fanwl â'r papurau eu hunain. </dc:description>
  <dc:date>19eg-20fed ganrif</dc:date>
</rdf:Description>