﻿<?xml version="1.0" encoding="utf-8"?>
<rdf:Description rdf:about="https://calmview.bangor.ac.uk:443/CalmView/record/catalog/WHEL/10" xmlns:rdf="http://www.w3.org/1999/02/22-rdf-syntax-ns#" xmlns:dc="http://purl.org/dc/elements/1.1/">
  <dc:title>Llyfr pregethau a phrofedigaethau Daniel Jones</dc:title>
  <dc:description>Dylid darllen hwn ar unwaith â dyddiaduron 1830 ac 1831. Ceir yma nodiadau cyflawn ar y testunau moel a gyfleir yn y dyddiaduron. Ceir y gair "Gwallgofi" yn y dyddiadur gyferbyn a nos Sadwrn 30 Gorffennaf 1831 ond yma rhoddir disgrifiad manwl o'r gydwybod ymneilltuol yn ymladd â phroblemau materol y byd a'r bywyd hwn. Ceir mwy o sôn hefyd am y diarddel o'r gymdeithas gyda'i fam, Jane yn eu torri allan am syrthio i ddyled. Datgelir fod Daniel Jones wedi bod yn garcharor am dros dri mis ym 1822 a bu ynghanol storm fawr tu allan i ynys Hilbre yn Hydref 1824. Ni fu y fath ofidiau ar druan o ddyn ac anaml y ceir y fath ddygnwch i fanylu arnynt, na'r dewrder i fyw drwyddynt. 
Yn y tudalennau cyntaf gwelir man nodiadau, y rhan fwyaf o'r "Evangelical Magazine"</dc:description>
  <dc:date>20 Mehefin 1830-15 Medi 1831</dc:date>
</rdf:Description>