Disgrifiad | Traethawd arobryn yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1943. Ffugenw : 'Llety Llwyd'. Copi gyda'r nodyn a ganlyn ar waelod y ddalen deitl : 'Carbon copi o'r Traethawd. Anfonwyd ef i'r gystadleuaeth yn 1942 (Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi), a daeth yn ei ol. Erbyn Eisteddfod 1943 y dylid ei anfon i mewn, ac felly fe geir blwyddyn arall i'w wella'. Ar y traethawd hwn y seiliodd D.T. ei lyfr Hen Longau Sir Gaernarfon a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Hanes y sir yn 1952. |