Disgrifiad | Yn isel ei ysbryd; problem 'ofnadwy...diwedd dyn' ac ansawdd ei 'ffydd' ef ei hun; beirniadaeth Elphin o'i 'Ymadawiad Arthur' - 'Gwn yn eithaf da na fu gennym ni y 'Nghymru eto feirniadaeth lenyddol werth yr enw'; y 'beirniad gwneyd sy'n gweld syniadau benthyg y 'mhawb ond ynddo'i hun' - da fyddai i Silyn ei ddychanu; yn anfodlon ar ei fyd pe 'cawn ffarm ar delerau gweddol a medru ei stocio mi awn ati eto ... Fel y mae hi'n awr, rhaid i mi ymladd a dynion sy'n rhwym o wneyd eu gwaethaf i mi rhag ofn i'm ffawd i beri anffawd iddyn hwythau'. |