Disgrifiad | ynglyn â thaith Cor Meibion y Moelwyn (Blaenau Ffestiniog) i America i gasglu arian at 'Gofeb Genedlaethol i'r Brenin Iorwerth VII' (cronfa i ymladd y darfodedigaeth yng Nghymry). Gwahoddwyd Silyn gan David Davies, Llandinam, i fynd gyda'r Cor tua chanol mis Medi 1911. Wedi cyrraedd Nelson (Canada) ddiwedd Ionawr 1912, bu raid i Silyn anfon y Cor adref, am fod y cyngherddau'n golled yn hytrach nag yn ennill. |