Rhif Cyf AmgBMSS/18341-18416
TeitlPapurau Isaiah Brookes Jones / Papers of Isaiah Brookes Jones
AdminHistoryCenhadwr ymhlith yr Indiaid Cochion yng Nghanada oedd Isaiah Brookes Jones (1884-1907). Fe'i ganed yn Llanfair Talhaearn, ond pan oedd yn blentyn symudodd y teulu i Fae Colwyn. Ymddengys mai Diwygiad 1904 a'i symbylodd yn bennaf i fentro i'r maes cenhadol, a'r flwyddyn ddilynnol fe'i derbyniwyd gan yr 'Assiniboia Conference of the Methodist Church of Canada' yn genhadwr ymhlith yr Indiaid, gan ddechrau mewn lle o'r enw Lenore yn unhalaith Manitoba. Ymhen dwy flynedd, yn Hydref 1907 symudodd i Winnipeg i astudio am radd mewn diwinyddiaeth yn Wesley College ond ar 28 Tachwedd collodd ei fywyd trwy foddi mewn pwll nofio. Am ragor o'i hanes Gw. rhagair Mrs Marian Giles Jones i 'Taith i'r Gorllewin Pell. Gan Isaiah Brookes Jones (1884-1907)' yn Yr Eurgrawn, Gwanwyn, 1967.

Papers of Isaiah Brookes Jones, missionary amongst the Cree Indians in Manitoba, Canada.
AcquisitionRhodd Mr. W. T. Owen, Hen Golwyn, a Mrs Marian Giles Jones, Deganwy
    Pwerir gan CalmView© 2008-2012