Disgrifiad | (cyfenwau yn ol trefn yr Wyddor), gan gynnwys : Alafon (Owen Griffith Owen) (ymosodiad yn y Geninen 'ar eich hen athro J.M.' - 19666, 7/10/05; Gwili a'i 'ffansiau' - 19667, 6/1/1911); Robert Bryan, Caernarfon (19673-19676); George Davison, Wernfawr, Harlech (yr I.L.P., ymgyrch y 'National Committee to promote the Break Up of the Poor Law', &c -19690-19708, 1909-24); D.Miall Edwards, o Landderfel (llongyfarch Silyn ar basio ei 'matric'; angladd George Osborne Morgan, priodasau John Morris-Jones a Tom Ellis - 19709, 31/8/1897); O.M.Edwards (gwrthod gwahoddiad i ddarlithio : 'Ar hyn o bryd yr wyf yn tybied mai y gwaith olaf hwn (cyhoeddi llyfrau) yw'r pwysicaf, ac y mae fy holl seibiant yn mynd ato' -19713, 8/1/07); Thomas Edward Ellis (dylid pwyso ar ustusiaid Meirion i gael 'Return o holl dafarndai y Sir a desgrifiad o honynt' - 19720, 20/7/1891); Syr E Vincent Evans, Llundain (Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol a hawlfraint drama gan R.G.Berry; helynt Tom Nefyn, &c. - 19721-19723, 1914-28); T.Solomon Griffiths, Utica (golygydd Y Cyfaill) (y Diwygiad yng Nghymru; tanysgrifwyr o Utica i Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill - 19736 - 19737, 1905-06) Gwili (ei farn ar bryddestau Eisteddfod Bae Colwyn - 19738, 1/12/1910); Hwfa Mon (anfon ei lun ar gais Silyn - 19746-19747, 1902-03); J.T.Job, o'r Carneddi, Bethesda (yn anghytuno a barn Silyn ar awdl T.Gwynn Jones : 'gallaf enwi i chwi gryn ddwsin o Awdlau sydd yn tra rhagori ar Awdl Gwynn Jones' - 19748, 10/1/03); William Jones, A.S. (trefni i areithio yn Nolwyddelan a Phenmachno - 19749 - 19752, 1906-11); W.G.Jones, Dolgellau, golygydd T Goleuad ('Trystan ac Esyllt'; pryderon ac 'anesmwythdra' Silyn yn Llundain; & c. - 19753 - 19756, 1903); Eluned Morgan (Y Wladfa) (ei (E.M.) swydd dros dro yn Llyfrgell Caerdydd; Eisteddfod Genedlaethol Llundain; & c - 19768-19769, 1902-09); John Morris-Jones, o Lanfairpwll (J.T. Job ac awdl Gwynn Jones : 'digon hawdd oedd canfod wrtho nad oedd ganddo ddigon o naws awen na llen i weled ei phrydferthwch. Rhyw sentiment go wanllyd a dal ganddo ef ...'; enghreifftiau o Driban Morgannwg; &c - 19772 - 19776, 1903-10); Evan Roberts, Talysarn brawd Silyn (19805-19810, 1902-11); Robert T. Roberts, Wilkesbarre, U.D.A. (Y Diwygiad a'r disgwyl amdano ymhlith Cymry America - 19819, 1906); C.F.Shaw (gwraig George Bernard Shaw) (gwahoddiad i'w gwr i annerch cyfarfod (?o'r Fabians) - 19820 -19821, 1907); David Thomas, o Rostryfan ('traethodyn' Silyn ar Sosialaeth; &c. -19822-19823, 1908-09); Sidney Webb ( Ysgol Haf y Fabians yn Llanbedr - 19828, 1910); E.Morgan Williams, Tanygrisiau (Y Diwygiad yn Nhanygrisiau - 19832, 1905); Hugh Williams, Y Coleg Diwinyddol, Y Bala (cais am i Silyn gopio'r rhestr o wahanol argraffiadau o Gildas yn yr Amgueddfa Brydeinig - 19841, 1903); J.Lloyd Williams, Bangor (alawon gwerin - 19842, 1907); T. Hudson Williams, o Baris (rhoi cyfarwyddiadau i Silyn Ynglyn a theithio i Baris a byw yno wedi cyrraedd - 19845, 1903); Tom Nefyn (Williams) (diolch am barodrwydd Silyn i'w helpu - 19846-19847, 1929). |