Title | Copi yn llawysgrif Mrs Annie Meiriona Jones, Bryn Derw, Abergynolwyn, o bennill y dywedir iddo gael ei gyfansoddi gan Mary Jones, Llanfihangel-y-Pennant : Do mi lwyddais i gael Beibl, A phrysuraf adre'n awr, Dysgaf bawb yn Llanfihangel Yn ei wirioneddau mawr ... etc. |
Description | Yn ôl nodyn ar gefn y copi gan Mr Evan Harris Evans, Bangor, brawd y copiwr, fe adroddwyd y pennill iddi (Mrs. A.M. Jones) gan ei gwr, a'i cafodd gan hen wr a fu farw tua 80 oed yn nechrau'r tridegau, yntau wedi ei eni a byw ar hyd ei oes yng Nghwm Llanfihangel. 'O adnabod y ddau wr hyn' medd Mr Harris Evans, 'barnaf yn ddibetrus fod y pennill hwn wedi ei gario ar gôf a llafar yn gywir, ac mai Mary Jones a'i cyfansoddodd'. |