Description | Oddi wrth wahanol ohebwyr, gan gynnwys: (Y Parch.) David Adams, Lerpwl (y feirniadaeth ar ei 'fyfyrdraeth' yn Eisteddfod Llanelli, etc.); J. Bodvan Anwyl, Y Llyfrgell Genedlaethol (llongyfarch Gwylfa ar ei benodi yn olygydd 'Y Dysgedydd,' ac addo ysgrif); 'Berw,' Waenfawr (y tal am feirniadu yn Eisteddfof Aberpennar, 1905); 'Brifdir,' Blaenau Ffestiniog (eisteddfodol); Robert Bryan, Caernarfon ac Alexandria (eisteddfodol, etc.). |