Croeso i CalmView


Croeso i’n catalog ar y we


Mae’r catalog ar-lein hwn yn cynnwys disgrifiadau o wahanol eitemau o’n casgliadau.


Gellir rhannu casgliadau’r Archifau a Chasgliadau Arbennig yn dri grwp, sef:

  • Cofnodion y Brifysgol
  • Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau Bangor (sy’n cynnwys dros 40,000 o eitemau)
  • Casgliadau Arbennig (dros 80 ohonynt), sy’n amrywio o bapurau stadau i bapurau personol, casgliadau o swyddfeydd cyfreithwyr a chofnodion chlybiau.


Mae ein daliadau hefyd wedi’u rhestru ar wefan Archives Hub https://archiveshub.jisc.ac.uk


Mae catalog llyfrau’r Llyfrgell ar wahân i’r catalog hwn. Os hoffech chwilio am lyfrau prin defnyddiwch gatalog llyfrgell Prifysgol Bangor: http://www.bangor.ac.uk/library/.


Drwy glicio ar “Arddangos” cewch wybodaeth am rai o’n casgliadau mwyaf arbennig.


Beth sydd yn y catalog?


Ar hyn o bryd mae gennym 56 o Gasgliadau Arbennig a thraean o’n Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau Bangor ar y catalog. Ceir crynodeb o gynnwys pob un ynghyd â gwybodaeth hanesyddol am eu cefndir. Mae pob eitem o fewn y casgliadau hefyd wedi’i disgrifio.


Fodd bynnag, cofiwch mai gwaith parhaus yw’r catalog. Mae data newydd yn cael eu hychwanegu iddo yn gyson ond nid oes cofnod o bob casgliad sydd gennym arno. Am ragor o fanylion am yr Archifdy a’r Casgliadau Arbennig ymgynghorwch â’n gwefan, http://www.bangor.ac.uk/archives.

Beth sy'n newydd

Pwerir gan CalmView© 2008-2012